Croeso
Croeso i Meinir Gwilym.com!
Dyma safle we swyddogol y gantores Meinir Gwilym - wedi ei chydnabod fel un o'r artisitiad poblogaidd gyda'r gwerthiant uchaf erioed yn y Gymraeg.
Bydd y safle yn rhannu gwybodaeth am y digwyddiadau diweddaraf a'r newyddion am Meinir. Os wyt ti am weld Meinir yn perfformio'n fyw, edrych yn yr adran Gigs a chei wybodaeth am lle bydd Meinir yn chwarae dros y misoedd nesa.
Os wyt ti wedi bod mewn gig yn ddiweddar - pam ddim anfon llun yr wyt ti wedi ei dynnu neu ei lunio i'r wefan? Bob mis bydd Meinir yn dewis llun i gael ei ddangos yn yr adran Ffans o'r safle. Mae cyfle hefyd i ennill gwobrau yn y gystadleuaeth fisol.
Os am brynu nwyddau Meinir Gwilym, yna mae'n werth edrych ar yr adran Nwyddau, lle mae linciau i brynu crysau T, CD's ac eitemau eraill.
Diolch am ymweld a Meinir Gwilym.com
|