Meinir Gwilym


Hawlfraint
© 2005 Meinir Gwilym

Mewn cydweithrediad â:


Yamaha Gwynfryn

Gwefan gan
Blah D Blah Design

Biograffi

Mwy am Meinir

Yn enedigol o blwyf Llangristiolus yng nghalon Ynys Môn oddi ar arfordir Gogledd Cymru, mae’r gantores/gyfansoddwraig Meinir Gwilym wedi sicrhau lle iddi ei hun fel un o’r artistiaid cyfrwng Cymraeg mwyaf poblogaidd erioed.

Ysgogodd rhyddhau ei CD gyntaf Smôcs, Coffi a Fodca Rhad (2002) ymateb ysgubol, gyda’r llais unigryw a’r geiriau gonest, y gwead o sain celtaidd/acwstig/roc-gwerin/pop, cafodd ei chofleidio yn un o’r casgliadau mwyaf gwreiddiol ac ysbrydoledig i ddod allan o Gyrmu ers blynyddoedd.

Gwerthwyd miloedd o gopiau o’r albym ddilynol Dim ond Clwydda o fewn ychydig fisoedd i’w rhyddhau yn Nhachwedd 2003. Mae Meinir Gwilym wedi ymddangos ar lwyfannau pob un o brif wyliau Cymru, yn cynnwys Sesiwn Fawr Dolgellau, Maes B, Sioe Fawr Llanelwedd a G?yl y Faenol Bryn Terfel yn 2003 a 2005. Perfformia gyda’i band aml-ddiwylliannol mewn lleoliadau mawrion neu ar ei phen ei hun, yn acwstig mewn digwyddiadau llai.

Golygodd cwblhau ei gradd mewn Llenyddiaeth Gymraeg ac Athroniaeth yn Haf 2004 y gallai Meinir ganolbwyntio’n gyfangwbl ar ei cherddoriaeth. Gyda’i delwedd gonest, ddi-lol, mae’n cael ei hysbrydoli gan fywyd bob dydd, yn lleol ac yn fyd-eang, gan gyfansoddi ei holl ganeuon ei hun.Yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, mae hi wedi bod yn torri cwys yn y Farchnad Ewropeaidd, gyda gigs llwyddianus mewn sawl prifddinas Ewropeaidd.

Darlledwyd rhaglen awr arbennig ar S4C yn dilyn bywyd Meinir am flwyddyn ar Fawrth y 3ydd 2005, a oedd yn cynnwys ymweliad â Yamaha, y cwmni sy’n cefnogi Meinir yn swyddogol. Disgrifia Meinir y gefnogaeth a ddatganodd y cwmni rhyngwladol hwn iddi, a’r cydweithio agos fu rhyngddynt wedyn yn un o uchafbwyntiau ei gyrfa hyd yn hyn.

Rhyddhawyd trydedd CD Meinir, yr albym Sgandal Fain ar Dachwedd 28ain 2005. Roedd yr albym yn gasgliad o’r llon a’r lleddf mewn dau hanner. Yn ystod 2006 a 2007, bu Meinir yn canolbwyntio ar gyfansoddi rhwng perfformiadau, ymddangosiadau, cyflwyno rhaglenni radio i’r BBC a chyflwyno cyfres ‘Noson Chis a Meinir’ ar y teledu a sawl taith ysgolion hefyd.

Erbyn hyn mae Meinir yn darlledu ar orsaf radio Champion 103 bob penwythnos, gyda rhaglen amrywiol o 12 tan 3 ar ddydd Sadwrn a sioe geisiadau o 12 tan 4 ar ddydd Sul.

Mae Rhagfyr 2008 yn gyfnod cyffrous eleni. Rhyddheir albym newydd Meinir Gwilym, Tombola, ddechrau’r mis. Dyma’r cynnyrch newydd cyntaf ganddi ers tair blynedd, ac fe’i gwneir hyd yn oed yn fwy arbennig gan ymddangosiad Bryn Terfel ar ddwy o’r caneuon.