Newyddion Diweddaraf
22 Hydref '09
Canu i Gymdeithas Cymry Llundain!
Ar nos Iau, Hydref 29ain, bydd Canolfan Cymry Llundain yn cyflwyno ‘Noson yng nghwmni Meinir Gwilym’. Bydd y gig yn cychwyn am 8.00 YH - Mynediad: £8 i aelodau'r Ganolfan / £12 i eraill. Tocynnau ar gael wrth y drws, ond gellir eu harchebu o flaen llaw drwy: http://www.wegottickets.com/event/61381 Yn ogystal â Meinir, bydd y bar yn llawn o Gymry Llundain o bob oedran a chefndir. I sicrhau na fydd y canu na’r hwyl yn dod i ben ar ôl perfformiad Meinir, bydd hogia Côr ifanc cyffrous newydd (ateb Llundain i ‘Only Men Aloud’) yn ymuno gyda ni yn y bar a hefyd yr enwog Côr Meibion Cymry Llundain. Mae'r Ganolfan wedi’w leoli ar 157-163 Gray's Inn Road, Llundain WC1X 8UE, ond ychydig funudau o Russell Square ar y Piccadilly Line neu 5 i 10 munud ar droed o unai Kings Cross neu Chancery Lane.
Am fwy o fanylion ewch i http://www.londonwelsh.org neu ebostiwch gwallter@hotmail.com
|