Newyddion Diweddaraf
28 Tachwedd '08
Meinir a Bryn Terfel!
Datganiad i’r Wasg: 28 Tachwedd 2008-11-28Bryn Terfel fydd yn ymddangos ar ddwy gân ar albym newydd hir-ddisgwyliedig Meinir Gwilym ‘Tombola’. Bydd y cawr operatig byd-enwog 6’3” yn ymuno gyda Meinir ar ddau drac o’r un-ar-ddeg ar yr albym, sydd yn yn cael ei rhyddhau ar Ragfyr y 10fed 2008. Gwrandewch ar y darllediad cyntaf ecsglwsif o’r caneuon ar raglen Celtic Heartbeat Frank Hennessy ar BBC Radio Wales nos yfory, nos Sadwrn yma, 29ain o Dachwedd 2008 rhwng 7 a 9 yr hwyr. Mae Meinir yn lawnsio’r CD ‘Tombola’ GCCD50 yng nghlwb cymdeithasol Wellman yn Llangefni, Ynys Môn nos Sadwrn yr 20fed o Ragfyr, gyda lawnsiad y De yn Neuadd Gymunedol Llanarthne mewn cydweithrediad â Menter iaith Cwm Gwendraeth ar Ragfyr y 12fed 2008. TOMBOLA – ar gael yn eich Siop Gymraeg leol a siopau recordiau da o’r 10fed o Ragfyr 2008. Albym: Tombola GCCD50 Label: Gwynfryn Cymunedol cyf Cyhoeddwyr: Cymru Muzic ltd Rhifau cysylltu am wybodaeth, lluniau a.y.b: 01286 660061 neu 07739396261
|