top of page

Biog

Yn enedigol o blwyf Llangristiolus yng nghalon Ynys Môn oddi ar arfordir Gogledd Cymru, mae’r gantores/gyfansoddwraig Meinir Gwilym wedi sicrhau lle iddi ei hun fel un o’r artistiaid cyfrwng Cymraeg mwyaf poblogaidd erioed.

 

Ysgogodd rhyddhau ei CD gyntaf Smôcs, Coffi a Fodca Rhad (2002) ymateb ysgubol. Gyda’r llais unigryw a’r geiriau gonest, y gwead o sain celtaidd/acwstig/roc-gwerin/pop, cafodd ei chofleidio yn un o’r casgliadau mwyaf gwreiddiol ac ysbrydoledig i ddod allan o Gyrmu ers blynyddoedd. Gwerthwyd miloedd o gopiau o’r albym ddilynol Dim ond Clwydda o fewn ychydig fisoedd i’w rhyddhau yn Nhachwedd 2003.

Mae Meinir Gwilym wedi ymddangos ar lwyfannau pob un o brif wyliau Cymru. Perfformia gyda’i band aml-ddiwylliannol mewn lleoliadau mawrion neu ar ei phen ei hun, yn acwstig mewn digwyddiadau llai.

 

Golygodd cwblhau ei gradd mewn Llenyddiaeth Gymraeg ac Athroniaeth yn Haf 2004 y gallai Meinir ganolbwyntio’n gyfangwbl ar ei cherddoriaeth. Gyda’i chanu gonest, ddi-lol, mae’n cael ei hysbrydoli gan fywyd bob dydd, yn lleol ac yn fyd-eang, gan gyfansoddi ei holl ganeuon ei hun. Yn y blynyddoedd diweddar, mae hi wedi bod yn torri cŵys yn y farchnad Ewropeaidd, gyda gigs llwyddianus mewn sawl prifddinas Ewropeaidd.

 

Darlledwyd rhaglen arbennig ar S4C yn dilyn bywyd Meinir am flwyddyn ar Fawrth y 3ydd 2005, a oedd yn cynnwys ymweliad â Yamaha, y cwmni sy’n cefnogi Meinir yn swyddogol. Disgrifia Meinir y gefnogaeth a ddatganodd y cwmni rhyngwladol hwn iddi, a’r cydweithio agos fu rhyngddynt wedyn yn un o uchafbwyntiau ei gyrfa hyd yn hyn.

Rhyddhawyd trydedd CD Meinir, Sgandal Fain, ar Dachwedd 28ain 2005. Roedd yr albym yn gasgliad o’r llon a’r lleddf mewn dau hanner. Yn ystod 2006 a 2007, bu Meinir yn canolbwyntio ar gyfansoddi rhwng perfformiadau, ymddangosiadau, teithiau ysgolion, cyflwyno rhaglenni radio ar Radio Cymru a Heart FM a chyflwyno cyfres ‘Noson Chis a Meinir’ ar y teledu.

 

Rhyddhawyd yr albym nesa, Tombola, ym mis Rhagfyr 2008. Dyma’r cynnyrch newydd cyntaf ganddi ers tair blynedd, ac fe’i gwnaed hyd yn oed yn fwy arbennig gan ymddangosiad y canwr opera byd-enwog Bryn Terfel ar ddwy o’r caneuon.

 

O fis Ionawr 2009 hyd Chwefror 2012 bu Meinir yn gweithio fel gohebydd teithiol i raglenni cylchgrawn Wedi 3 a Wedi 7 ar S4C. Disgrifiodd Meinir ei swydd yn y cyfnod hwn fel “...bara menyn blasus! Mae cael crwydro’r wlad yn cyfarfod gwahanol bobol a chlywed eu straeon bob dydd o’r wythnos yn bleser ac yn ysbrydoliaeth, ac mae cyflwyno eitemau ‘byw’ yn her hefyd.” Ond parhau mae’r canu. Yn 2012, cychwynnodd Meinir ar brosiect ‘Croesi Ffiniau’ gyda’r delynores werin Gwenan Gibbard. Mae’r prosiect yn un sy’n ehangu gorwelion cerddorol y ddwy gantores wrth iddyn nhw uno a phlethu cerddoriaeth draddodiadol gyda’r modern.

 

Yn ystod 2012-14, bu Meinir ar sawl taith dramor, yn perfformio ac yn cynnal gweithdai cymunedol. Roedd Dingle yn yr Iwerddon, Gwlad y Basg, Ffryslan a Los Angeles ymÅ·sg yr uchafbwyntiau. Rhyddhawyd yr albym 'Celt' oedd yn gasgliad o ganeuon Meinir yn yr Unol Daleithiau a Chanada yn 2014 i gyd-fynd a pherfformiad ganddi yn nathliadau Gwyl Ddewi Cymdeithas Gymraeg Califfornia.

 

Mae albym newydd Meinir, 'Llwybrau', yn albym 15 can ac yn siarad drosti ei hun. Dyma'r cynnyrch newydd cyntaf gan Meinir ers 8 mlynedd, ac mae hi ar gael o'r 14eg o Dachwedd 2016 ymlaen.

Dolenni mwy o wybodaeth

Photo 25-09-2016, 12 44 50 (1)
GITAR4
MG4
bottom of page