
Off Grid / Maniffesto
Cerddoriaeth Newydd
Dros ddeugain mlynedd ers dyddiau 'Y Ficar', mae Gwyn “Dan Ficar” Roberts wedi troi at gyfansoddi eto. Gwyn oedd prif leisydd y band o’r Felinheli a wnaeth ei farc ar sîn gerddoriaeth Gymraeg yr wythdegau.
Mae oes o fyw ers hynny, ac nid sgwennu am yr hen ddyddiau sydd yma. Mae digon i'w ddweud am heddiw.
Mae’r caneuon newydd yn sylwadau ar fywyd fel mae o’n ei weld o rŵan — dim mwy, dim llai.
Off Grid a Maniffesto yw’r ddwy gân gyntaf i’w rhyddhau dan yr enw Dan Gwyn a Bob, wedi’u cynhyrchu gan Meinir Gwilym ar label Tryfan.
Nid caneuon am heneiddio sydd yma, ond caneuon am fyw.
Y CANEUON
OFF GRID
Cân am fywyd llai cymhleth — byw yn y bwthyn, dianc rhag prysurdeb y byd, a chwarae banjo yn y cae. Naws fyfyriol, ac yn fynegiant o'r awydd modern am symlrwydd- sy’n nodweddiadol o ganeuon Gwyn.
MANIFFESTO
Cân sy’n tanio o’r cychwyn cyntaf, yn llawn afiaith a chydig o ddireidi.

Gwybodaeth Rhyddhau - Release Information
Artist: Dan Gwyn a Bob
Teitl / Title: Off Grid / Maniffesto
Dyddiad Rhyddhau / Release Date: 30.11.2026
Label: Tryfan
Rhif Catalog / Catalogue No.: TRF LL523
OFF GRID
Hyd / Duration: 3:03
ISRC: GBCFU2600041
MANIFFESTO
Hyd / Duration: 3:22
ISRC: GBCFU2600042
MWY O WYBODAETH / MORE INFO:
post@meinirgwilym.com
Gwyn - 07780614829
